Neidio i'r cynnwys

Dic Penderyn

Oddi ar Wicipedia
Dic Penderyn
Ganwyd1808 Edit this on Wikidata
Aberafan Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 1831 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweithiwr bôn braich, glöwr Edit this on Wikidata
Murlun ar wal ger Marchnad Caerdydd, lle crogwyd Richard Lewis.

Gwrthryfelwr Cymreig oedd Dic Penderyn (enw bedydd: Richard Lewis) (180813 Awst 1831), glowr a llafuriwr yn ôl ei alwedigaeth.

Ganwyd yn Aberafan a daeth yn enwog wedi iddo gael ei grogi ar gam. Trigai ym Merthyr Tydfil a chymerodd ran yng Ngwrthryfel Merthyr ar 3 Mehefin 1831.[1] Fe'i arestiwyd ar 3 Mehefin, gyda'i gyfaill Lewis Lewis, un o'r arweinwyr.

Fe'i cyhuddwyd o drywanu milwr yn ei goes gyda bidog, er y teimlai nifer ar y pryd, ei fod yn ddieuog. Dywedir fod y llywodraeth Brydeinig am ladd o leiaf un o'r gwrthrhyfelwyr fel esiampl. Wedi ei farwolaeth, cafodd ei ddyrchafu i statws merthyr Cymreig.

Claddwyd Dic Penderyn ym mynwent eglwys y Santes Fair, Aberafan.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Dic Penderyn (Richard Lewis)". 100 Welsh Heroes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-15. Cyrchwyd 21 Awst 2006.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.